Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2021
Amser:
09.16 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12487
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Anna Hind, Llywodraeth Cymru Francois Samuel, Llywodraeth Cymru Yr Athro Nick Gallent, UCL Yr Athro Mark Tewdwr-Jones, UCL |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021
2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021
2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Medi 2021.
2.3 Llythyr at y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas ag ail gartrefi.
2.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas ag ail gartrefi.
2.4 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru: Adroddiadau Blynyddol 2020-21
2.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru: Adroddiadau Blynyddol 2020-21.
2.5 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).
2.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).
3 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Anna Hind, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru
Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru.
4 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 1 - academyddion
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Yr Athro Nick Gallent, Athro ym maes Tai a Chynllunio, Ysgol Gynllunio Bartlett, Cyfadran yr Amgylchedd Adeiledig, Coleg Prifysgol Llundain
· Yr Athro Mark Tewdwr-Jones, Athro ym maes Dinasoedd a Rhanbarthau, Canolfan Dadansoddi Gofodol Uwch, Cyfadran yr Amgylchedd Adeiledig, Coleg Prifysgol Llundain.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
6 Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 4.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau
7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3, er mwyn llywio ei adroddiad drafft.
8 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
8.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd.
9 Diweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau)
9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.